Exodus 10:27-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Ond yr Arglwydd a galedodd galon Pharo, ac ni fynnai eu gollwng hwynt.

28. A dywedodd Pharo wrtho, Dos oddi wrthyf, gwylia arnat rhag gweled fy wyneb mwy: oblegid y dydd y gwelych fy wyneb, y byddi farw.

29. A dywedodd Moses, Uniawn y dywedaist, ni welaf dy wyneb mwy.

Exodus 10