Exodus 1:4-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Dan, a Nafftali, Gad, ac Aser.

5. A'r holl eneidiau a ddaethant allan o gorff Jacob oedd ddeng enaid a thrigain: a Joseff oedd yn yr Aifft.

6. A Joseff a fu farw, a'i holl frodyr, a'r holl genhedlaeth honno.

7. A phlant Israel a hiliasant ac a gynyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth; a'r wlad a lanwyd ohonynt.

8. Yna y cyfododd brenin newydd yn yr Aifft, yr hwn nid adnabuasai mo Joseff.

9. Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl, Wele bobl plant Israel yn amlach, ac yn gryfach, na nyni.

10. Deuwch, gwnawn yn gall â hwynt; rhag amlhau ohonynt, a bod, pan ddigwyddo rhyfel, ymgysylltu ohonynt â'n caseion, a rhyfela i'n herbyn, a myned i fyny o'r wlad.

11. Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid gwaith, i'w gorthrymu â'u beichiau; a hwy a adeiladasant i Pharo ddinasoedd trysorau, sef Pithom a Raamses.

12. Ond fel y gorthryment hwynt, felly yr amlhaent, ac y cynyddent: a drwg oedd ganddynt oherwydd plant Israel.

13. A'r Eifftiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed.

14. A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy'r gwasanaeth caled, mewn clai, ac mewn priddfaen, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; a'u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo oedd galed.

15. A brenin yr Aifft a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebreësau; a ba rai enw un oedd Sipra, ac enw yr ail Pua:

16. Ac efe a ddywedodd, Pan fyddoch fydwragedd i'r Hebreësau, a gweled ohonoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw.

17. Er hynny y bydwragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ôl yr hyn a ddywedasai brenin yr Aifft wrthynt; eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.

18. Am hynny brenin yr Aifft a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw?

19. A'r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharo, Am nad yw yr Hebreësau fel yr Eifftesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig atynt.

20. Am hynny y bu Duw dda wrth y bydwragedd: a'r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn.

21. Ac oherwydd i'r bydwragedd ofni Duw, yntau a wnaeth dai iddynt hwythau.

Exodus 1