Exodus 1:17-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Er hynny y bydwragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ôl yr hyn a ddywedasai brenin yr Aifft wrthynt; eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.

18. Am hynny brenin yr Aifft a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw?

19. A'r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharo, Am nad yw yr Hebreësau fel yr Eifftesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig atynt.

Exodus 1