Exodus 1:15-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. A brenin yr Aifft a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebreësau; a ba rai enw un oedd Sipra, ac enw yr ail Pua:

16. Ac efe a ddywedodd, Pan fyddoch fydwragedd i'r Hebreësau, a gweled ohonoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw.

17. Er hynny y bydwragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ôl yr hyn a ddywedasai brenin yr Aifft wrthynt; eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.

18. Am hynny brenin yr Aifft a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw?

19. A'r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharo, Am nad yw yr Hebreësau fel yr Eifftesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig atynt.

20. Am hynny y bu Duw dda wrth y bydwragedd: a'r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn.

21. Ac oherwydd i'r bydwragedd ofni Duw, yntau a wnaeth dai iddynt hwythau.

22. A Pharo a orchmynnodd i'w holl bobl, gan ddywedyd, Pob mab a'r a enir, bwriwch ef i'r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.

Exodus 1