Esther 8:11-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Trwy y rhai y caniataodd y brenin i'r Iddewon, y rhai oedd ym mhob dinas, ymgynnull, a sefyll am eu heinioes, i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha holl allu y bobl a'r dalaith a osodai arnynt, yn blant ac yn wragedd, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt;

12. Mewn un dydd, trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, sef ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar.

13. Testun yr ysgrifen, i roddi gorchymyn ym mhob talaith, a gyhoeddwyd i bob rhyw bobl; ac ar fod yr Iddewon yn barod erbyn y diwrnod hwnnw i ymddial ar eu gelynion.

14. Y rhedegwyr, y rhai oedd yn marchogaeth y dromedariaid a'r mulod, a aethant ar frys, wedi eu gyrru trwy air y brenin; a'r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys.

15. A Mordecai a aeth allan o ŵydd y brenin mewn brenhinol wisg o ruddgoch a gwyn, ac â choron fawr o aur, ac mewn dillad sidan a phorffor; a dinas Susan a orfoleddodd ac a lawenychodd:

16. I'r Iddewon yr oedd goleuni, a llawenydd, a hyfrydwch, ac anrhydedd.

17. Ac ym mhob talaith, ac ym mhob dinas, lle y daeth gair y brenin a'i orchymyn, yr oedd llawenydd a hyfrydwch gan yr Iddewon, gwledd hefyd a diwrnod daionus: a llawer o bobl y wlad a aethant yn Iddewon; oblegid arswyd yr Iddewon a syrthiasai arnynt hwy.

Esther 8