Esther 6:12-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A dychwelodd Mordecai i borth y brenin. A Haman a frysiodd i'w dŷ yn alarus, wedi gorchuddio ei ben.

13. A Haman a adroddodd i Seres ei wraig, ac i'w holl garedigion, yr hyn oll a ddigwyddasai iddo. Yna ei ddoethion, a Seres ei wraig, a ddywedasant wrtho, Os o had yr Iddewon y mae Mordecai, yr hwn y dechreuaist syrthio o'i flaen, ni orchfygi mohono, ond gan syrthio y syrthi o'i flaen ef.

14. Tra yr oeddynt hwy eto yn ymddiddan ag ef, ystafellyddion y brenin a ddaethant, ac a gyrchasant Haman ar frys i'r wledd a wnaethai Esther.

Esther 6