Esther 6:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y noson honno cwsg y brenin a giliodd ymaith; am hynny efe a archodd ddwyn llyfr coffadwriaethau hanesion yr amseroedd; a darllenwyd hwynt gerbron y brenin.

2. Yna y cafwyd yn ysgrifenedig yr hyn a fynegasai Mordecai am Bigthana a Theres, dau o ystafellyddion y brenin, o'r rhai oedd yn cadw y trothwy; sef y rhai a geisiasent estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus.

3. A dywedodd y brenin, Pa anrhydedd neu fawredd a wnaed i Mordecai am hyn? A gweision y brenin, sef ei weinidogion ef, a ddywedasant, Ni wnaed dim erddo ef.

4. A'r brenin a ddywedodd, Pwy sydd yn y cyntedd? A Haman a ddaethai i gyntedd nesaf allan tŷ y brenin, i ddywedyd wrth y brenin am grogi Mordecai ar y pren a baratoesai efe iddo.

5. A gweision y brenin a ddywedasant wrtho, Wele Haman yn sefyll yn y cyntedd. A dywedodd y brenin, Deled i mewn.

6. A phan ddaeth Haman i mewn, dywedodd y brenin wrtho, Beth a wneir i'r gŵr y mae y brenin yn ewyllysio ei anrhydeddu? Yna Haman a ddywedodd yn ei galon, I bwy yr ewyllysia y brenin wneuthur anrhydedd yn fwy nag i mi?

7. A Haman a ddywedodd wrth y brenin, Y gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu,

8. Dygant y wisg frenhinol iddo, yr hon a wisg y brenin, a'r march y merchyg y brenin arno, a rhodder y frenhinol goron am ei ben ef:

9. A rhodder y wisg, a'r march, yn llaw un o dywysogion ardderchocaf y brenin, a gwisgant am y gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu, a pharant iddo farchogaeth ar y march trwy heol y ddinas, a chyhoeddant o'i flaen ef, Fel hyn y gwneir i'r gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu.

10. Yna y brenin a ddywedodd wrth Haman, Brysia, cymer y wisg a'r march, fel y lleferaist, a gwna felly i Mordecai yr Iddew, yr hwn sydd yn eistedd ym mhorth y brenin: na ad heb wneuthur ddim o'r hyn oll a leferaist.

11. Felly Haman a gymerth y wisg a'r march, ac a wisgodd am Mordecai, ac a wnaeth hefyd iddo farchogaeth trwy heol y ddinas, ac a gyhoeddodd o'i flaen ef, Fel hyn y gwneir i'r gŵr y mae y brenin yn mynnu ei anrhydeddu.

Esther 6