Esther 2:20-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Nid oedd Esther yn mynegi ei chenedl, na'i phobl; megis y gorchmynasai Mordecai iddi: canys Esther oedd yn gwneuthur yr hyn a ddywedasai Mordecai, fel cynt pan oedd hi yn ei meithrin gydag ef.

21. Yn y dyddiau hynny, pan oedd Mordecai yn eistedd ym mhorth y brenin, y llidiodd Bigthan a Theres, dau o ystafellyddion y brenin, sef o'r rhai oedd yn cadw y trothwy, a cheisiasant estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus.

22. A'r peth a wybu Mordecai; ac efe a'i mynegodd i Esther y frenhines; ac Esther a'i dywedodd wrth y brenin, yn enw Mordecai.

23. A phan chwilwyd y peth, fe a gafwyd felly: am hynny y crogwyd hwynt ill dau ar bren. Ac ysgrifennwyd hynny mewn llyfr cronicl gerbron y brenin.

Esther 2