1. Wedi y pethau hyn, pan lonyddodd dicllonedd y brenin Ahasferus, efe a gofiodd Fasti, a'r hyn a wnaethai hi, a'r hyn a farnasid arni.
2. Am hynny gweision y brenin, y rhai oedd yn gweini iddo, a ddywedasant, Ceisier i'r brenin lancesau teg yr olwg o wyryfon:
3. A gosoded y brenin swyddogion trwy holl daleithiau ei frenhiniaeth, a chasglant hwythau bob llances deg yr olwg, o wyry, i Susan y brenhinllys, i dŷ y gwragedd, dan law Hegai, ystafellydd y brenin, ceidwad y gwragedd; a rhodder iddynt bethau i'w glanhau: