Esra 9:9-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Canys caethion oeddem ni; ond ni adawodd ein Duw ni yn ein caethiwed, eithr parodd i ni drugaredd o flaen brenhinoedd Persia, i roddi i ni orffwystra i ddyrchafu tŷ ein Duw ni, ac i gyfodi ei leoedd anghyfannedd ef, ac i roddi i ni fur yn Jwda a Jerwsalem.

10. Ac yn awr beth a ddywedwn wedi hyn, O ein Duw? canys gadawsom dy orchmynion di,

11. Y rhai a orchmynnaist trwy law dy weision y proffwydi, gan ddywedyd, Y wlad yr ydych yn myned iddi i'w meddiannu, gwlad halogedig yw hi, trwy halogedigaeth pobl y gwledydd, oblegid eu ffieidd‐dra hwynt, y rhai a'i llanwasant hi â'u haflendid o gwr bwygilydd.

12. Ac yn awr, na roddwch eich merched i'w meibion hwynt, ac na chymerwch eu merched hwynt i'ch meibion chwi, ac na cheisiwch eu heddwch hwynt na'u daioni byth: fel y cryfhaoch, ac y mwynhaoch ddaioni y wlad, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i'ch meibion byth.

13. Ac wedi yr hyn oll a ddaeth arnom am ein drwg weithredoedd, a'n mawr gamwedd, am i ti ein Duw ein cosbi yn llai na'n hanwiredd, a rhoddi i ni ddihangfa fel hyn;

14. A dorrem ni drachefn dy orchmynion di, ac ymgyfathrachu â'r ffiaidd bobl hyn? oni ddigit ti wrthym, nes ein difetha, fel na byddai un gweddill na dihangol?

15. Arglwydd Dduw Israel, cyfiawn ydwyt ti; eithr gweddill dihangol ydym ni, megis heddiw: wele ni o'th flaen di yn ein camweddau; canys ni allwn ni sefyll o'th flaen di am hyn.

Esra 9