Esra 9:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi darfod hynny, y tywysogion a ddaethant ataf fi, gan ddywedyd, Nid ymneilltuodd pobl Israel, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid, oddi wrth bobl y gwledydd: gwnaethant yn ôl eu ffieidd‐dra hwynt; sef y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Pheresiaid, y Jebusiaid, yr Ammoniaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid, a'r Amoriaid.

2. Canys cymerasant o'u merched iddynt eu hun, ac i'w meibion; a'r had sanctaidd a ymgymysgodd â phobl y gwledydd: a llaw y penaethiaid a'r tywysogion fu gyntaf yn y camwedd hyn.

3. Pan glywais innau hyn, mi a rwygais fy nillad a'm gwisg, ac a dynnais wallt fy mhen a'm barf, ac a eisteddais yn syn.

Esra 9