Esra 8:8-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Ac o feibion Seffatia; Sebadeia mab Michael, a chydag ef bedwar ugain o wrywiaid.

9. O feibion Joab; Obadeia mab Jehiel, a chydag ef ddau cant a deunaw o wrywiaid.

10. Ac o feibion Selomith; mab Josiffia, a chydag ef wyth ugain o wrywiaid.

11. Ac o feibion Bebai; Sechareia mab Bebai, a chydag ef wyth ar hugain o wrywiaid.

12. Ac o feibion Asgad; Johanan mab Haccatan, a chydag ef ddeng mab a chant.

Esra 8