Esra 8:23-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â'n Duw am hyn; ac efe a wrandawodd arnom.

24. Yna y neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebeia, Hasabeia, a deg o'u brodyr gyda hwynt;

25. Ac a bwysais atynt hwy yr arian, a'r aur, a'r llestri, sef offrwm tŷ ein Duw ni, yr hyn a offrymasai y brenin, a'i gynghoriaid, a'i dywysogion, a holl Israel, y rhai a gawsid yno.

26. Ie, pwysais i'w dwylo hwynt chwe chant a deg a deugain talent o arian, ac o lestri arian gan talent, a chan talent o aur;

27. Ac ugain o orflychau aur o fil o ddracmonau; a dau lestr o bres melyn da, mor brydferth ag aur.

28. A dywedais wrthynt, Sanctaidd ydych chwi i'r Arglwydd; a'r llestri ydynt sanctaidd; yr arian hefyd a'r aur sydd offrwm gwirfodd i Arglwydd Dduw eich tadau.

29. Gwyliwch, a chedwch hwynt, hyd oni phwysoch hwynt gerbron penaethiaid yr offeiriaid a'r Lefiaid, a phennau‐cenedl Israel yn Jerwsalem, yng nghelloedd tŷ yr Arglwydd.

30. Felly yr offeiriaid a'r Lefiaid a gymerasant bwys yr arian, a'r aur, a'r llestri, i'w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw ni.

Esra 8