12. Ac o feibion Asgad; Johanan mab Haccatan, a chydag ef ddeng mab a chant.
13. Ac o feibion olaf Adonicam, dyma hefyd eu henwau hwynt, Eliffelet, Jeiel, a Semaia, a chyda hwynt drigain o wrywiaid.
14. Ac o feibion Bigfai; Uthai, a Sabbud, a chyda hwynt ddeg a thrigain o wrywiaid.
15. A chesglais hwynt wrth yr afon sydd yn myned i Ahafa; ac yno y gwersyllasom ni dridiau: a mi a ystyriais y bobl, a'r offeiriaid, ond ni chefais yno neb o feibion Lefi.
16. Yna yr anfonais am Elieser, am Ariel, am Semaia, ac am Elnathan, ac am Jarib, ac am Elnathan, ac am Nathan, ac am Sechareia, ac am Mesulam, y penaethiaid; ac am Joiarib, ac am Elnathan, y rhai doethion:
17. A rhoddais orchymyn gyda hwynt at Ido, pennaeth yn y fan a elwir Chasiffia; a gosodais yn eu pennau hwynt eiriau i'w traethu wrth Ido, a'i frodyr y Nethiniaid, yn y fan a elwir Chasiffia, fel y dygent atom ni weinidogion i dŷ ein Duw.
18. A hwy a ddygasant atom, fel yr oedd daionus law ein Duw arnom ni, ŵr deallgar o feibion Mahli, fab Lefi, fab Israel, a Serebeia, a'i feibion, a'i frodyr, ddeunaw;
19. A Hasabeia, a chydag ef Jesaia o feibion Merari, a'i frodyr, a'u meibion, ugain;
20. Ac o'r Nethiniaid, a roddasai Dafydd a'r tywysogion yng ngwasanaeth y Lefiaid, dau cant ac ugain o Nethiniaid: hwynt oll a hysbysasid erbyn eu henwau.
21. Ac yno, wrth afon Ahafa, y cyhoeddais ympryd, i ymgystuddio gerbron ein Duw ni, i geisio ganddo ef ffordd union i ni, ac i'n plant, ac i'n golud oll.
22. Canys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenin fyddin a gwŷr meirch, i'n cynorthwyo rhag y gelyn ar y ffordd: canys llefarasem wrth y brenin, gan ddywedyd, Llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a'i ceisiant ef, a'i gryfder a'i ddicter yn erbyn pawb a'i gadawant ef.
23. Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â'n Duw am hyn; ac efe a wrandawodd arnom.
24. Yna y neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebeia, Hasabeia, a deg o'u brodyr gyda hwynt;
25. Ac a bwysais atynt hwy yr arian, a'r aur, a'r llestri, sef offrwm tŷ ein Duw ni, yr hyn a offrymasai y brenin, a'i gynghoriaid, a'i dywysogion, a holl Israel, y rhai a gawsid yno.
26. Ie, pwysais i'w dwylo hwynt chwe chant a deg a deugain talent o arian, ac o lestri arian gan talent, a chan talent o aur;
27. Ac ugain o orflychau aur o fil o ddracmonau; a dau lestr o bres melyn da, mor brydferth ag aur.