Esra 7:2-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub,

3. Fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth,

4. Fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci,

5. Fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad pennaf:

6. Yr Esra hwn a aeth i fyny o Babilon; ac efe oedd ysgrifennydd cyflym yng nghyfraith Moses, yr hon a roddasai Arglwydd Dduw Israel: a'r brenin a roddes iddo ef ei holl ddymuniad, fel yr ydoedd llaw yr Arglwydd ei Dduw arno ef.

7. A rhai a aethant i fyny o feibion Israel, ac o'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r cantorion, a'r porthorion, a'r Nethiniaid, i Jerwsalem, yn y seithfed flwyddyn i'r brenin Artacsercses.

8. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem yn y pumed mis, yr hwn oedd yn y seithfed flwyddyn i'r brenin.

9. Canys ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf y dechreuodd efe fyned i fyny o Babilon; ac ar y dydd cyntaf o'r pumed mis y daeth efe i Jerwsalem, fel yr oedd daionus law ei Dduw gydag ef.

10. Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr Arglwydd, ac i'w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau.

11. A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr Arglwydd, a'i ddeddfau ef i Israel.

12. Artacsercses brenin y brenhinoedd at Esra yr offeiriad, ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, perffaith dangnefedd, a'r amser a'r amser.

13. Myfi a osodais orchymyn, fod i bwy bynnag yn fy nheyrnas i o bobl Israel, ac o'i offeiriaid ef, a'i Lefiaid, sydd ewyllysgar i fyned i Jerwsalem, gael myned gyda thi.

14. Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin, a'i saith gynghoriaid, i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem, wrth gyfraith dy Dduw yr hon sydd yn dy law di;

15. Ac i ddwyn yr arian a'r aur a offrymodd y brenin a'i gynghoriaid, ohonynt eu hunain, i Dduw Israel, yr hwn y mae ei breswylfa yn Jerwsalem,

16. A'r holl arian a'r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith Babilon, gydag offrymau gwirfodd y bobl a'r offeiriaid, y rhai a offrymant ohonynt eu hunain tuag at dŷ eu Duw yn Jerwsalem:

17. Fel y prynych yn ebrwydd â'r arian hynny ychen, hyrddod, ŵyn, a'u bwyd‐offrymau, a'u diod‐offrymau, a'u hoffrwm hwynt ar allor tŷ eich Duw yn Jerwsalem.

18. A'r hyn a fyddo da gennyt ti, a chan dy frodyr, ei wneuthur â'r rhan arall o'r arian a'r aur, gwnewch yn ôl ewyllys eich Duw.

Esra 7