Esra 7:13-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Myfi a osodais orchymyn, fod i bwy bynnag yn fy nheyrnas i o bobl Israel, ac o'i offeiriaid ef, a'i Lefiaid, sydd ewyllysgar i fyned i Jerwsalem, gael myned gyda thi.

14. Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin, a'i saith gynghoriaid, i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem, wrth gyfraith dy Dduw yr hon sydd yn dy law di;

15. Ac i ddwyn yr arian a'r aur a offrymodd y brenin a'i gynghoriaid, ohonynt eu hunain, i Dduw Israel, yr hwn y mae ei breswylfa yn Jerwsalem,

16. A'r holl arian a'r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith Babilon, gydag offrymau gwirfodd y bobl a'r offeiriaid, y rhai a offrymant ohonynt eu hunain tuag at dŷ eu Duw yn Jerwsalem:

17. Fel y prynych yn ebrwydd â'r arian hynny ychen, hyrddod, ŵyn, a'u bwyd‐offrymau, a'u diod‐offrymau, a'u hoffrwm hwynt ar allor tŷ eich Duw yn Jerwsalem.

18. A'r hyn a fyddo da gennyt ti, a chan dy frodyr, ei wneuthur â'r rhan arall o'r arian a'r aur, gwnewch yn ôl ewyllys eich Duw.

19. A'r llestri, y rhai a roddwyd i ti i wasanaeth tŷ dy Dduw, dod adref o flaen dy Dduw yn Jerwsalem.

20. A pheth bynnag ychwaneg a fyddo anghenraid i dŷ dy Dduw, yr hyn a ddigwyddo i ti ei roddi, a roddi di o drysordy y brenin.

21. A minnau y brenin Artacsercses ydwyf yn gosod gorchymyn i holl drysorwyr y tu hwnt i'r afon, beth bynnag a geisio Esra, offeiriad, ac ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, gennych, gwneler yn ebrwydd;

22. Hyd gan talent o arian, a hyd gan corus o wenith, a hyd gan bath o win, a hyd gan bath o olew, a halen heb fesur.

Esra 7