Esra 6:4-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Yn dair rhes o feini mawr, a rhes o goed newydd: a rhodder y draul o dŷ y brenin.

5. A llestri tŷ Dduw hefyd, yn aur ac yn arian, y rhai a ddug Nebuchodonosor o'r deml yn Jerwsalem, ac a ddug efe adref i Babilon, rhodder hwynt i'w dwyn i'r deml yn Jerwsalem, i'w lle, a gosoder hwynt yn nhŷ Dduw.

6. Yn awr Tatnai tywysog y tu hwnt i'r afon, Setharbosnai, a'ch cyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai ydych o'r tu hwnt i'r afon, ciliwch oddi yno.

7. Gadewch yn llonydd waith y tŷ Dduw hwn: adeiladed tywysogion a henuriaid yr Iddewon y tŷ hwn i Dduw yn ei le.

8. Gosodais hefyd orchymyn am yr hyn a wnewch i henuriaid yr Iddewon hyn wrth adeiladu y tŷ Dduw hwn; mai o gyfoeth y brenin, sef o'r deyrnged o'r tu hwnt i'r afon, y rhoddir traul i'r gwŷr hyn, fel na pheidio y gwaith.

9. A'r hyn a fyddo angenrheidiol i boethoffrymau Duw y nefoedd, yn eidionau, neu yn hyrddod, neu yn ŵyn, yn ŷd, yn halen, yn win, ac yn olew, yn ôl yr hyn a ddywedo yr offeiriaid sydd yn Jerwsalem, rhodder iddynt bob dydd yn ddi‐baid:

10. Fel yr offrymont aroglau peraidd i Dduw y nefoedd, ac y gweddïont dros einioes y brenin, a'i feibion.

11. Gosodais hefyd orchymyn, pa ddyn bynnag a newidio y gair hwn, tynner coed o'i dŷ ef, a gosoder i sefyll, ac ar hwnnw croger ef; a bydded ei dŷ ef yn domen am hynny.

12. A'r Duw, yr hwn a wnaeth i'w enw breswylio yno, a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo Duw yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd.

13. Yna Tatnai tywysog y tu yma i'r afon, Setharbosnai, a'u cyfeillion, megis yr anfonodd y brenin Dareius, felly y gwnaethant yn ebrwydd.

14. A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant, ac a lwyddasant trwy broffwydoliaeth Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido; ie, adeiladasant, a gorffenasant, wrth orchymyn Duw Israel, ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius, ac Artacsercses brenin Persia.

15. A'r tŷ hwn a orffennwyd y trydydd dydd o fis Adar, pan oedd y chweched flwyddyn o deyrnasiad y brenin Dareius.

Esra 6