11. Gosodais hefyd orchymyn, pa ddyn bynnag a newidio y gair hwn, tynner coed o'i dŷ ef, a gosoder i sefyll, ac ar hwnnw croger ef; a bydded ei dŷ ef yn domen am hynny.
12. A'r Duw, yr hwn a wnaeth i'w enw breswylio yno, a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo Duw yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd.
13. Yna Tatnai tywysog y tu yma i'r afon, Setharbosnai, a'u cyfeillion, megis yr anfonodd y brenin Dareius, felly y gwnaethant yn ebrwydd.
14. A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant, ac a lwyddasant trwy broffwydoliaeth Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido; ie, adeiladasant, a gorffenasant, wrth orchymyn Duw Israel, ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius, ac Artacsercses brenin Persia.
15. A'r tŷ hwn a orffennwyd y trydydd dydd o fis Adar, pan oedd y chweched flwyddyn o deyrnasiad y brenin Dareius.
16. A meibion Israel, yr offeiriaid a'r Lefiaid, a'r rhan arall o feibion y gaethglud, a gysegrasant y tŷ hwn eiddo Duw mewn llawenydd;
17. Ac a offrymasant wrth gysegru y tŷ hwn eiddo Duw, gant o ychen, dau cant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddeg o fychod geifr, yn bech‐aberth dros Israel, yn ôl rhifedi llwythau Israel.
18. Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu dosbarthiadau, a'r Lefiaid yn eu cylchoedd hwythau, i wasanaeth Duw yn Jerwsalem, yn ôl ysgrifen llyfr Moses.
19. Meibion y gaethglud hefyd a gadwasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
20. Canys yr offeiriaid a'r Lefiaid a ymlanhasant yn gytûn, yn lân i gyd oll, ac a aberthasant y Pasg dros holl feibion y gaethglud, a thros eu brodyr yr offeiriaid, a throstynt eu hunain.
21. A meibion Israel, y rhai a ddychwelasent o'r gaethglud, a phob un a ymneilltuasai oddi wrth halogedigaeth cenhedloedd y wlad atynt hwy, i geisio Arglwydd Dduw Israel, a fwytasant,
22. Ac a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod mewn llawenydd: canys yr Arglwydd a'u llawenhasai hwynt, ac a droesai galon brenin Asyria atynt hwy, i'w cynorthwyo hwynt yng ngwaith tŷ Dduw, Duw Israel.