Esra 6:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y brenin Dareius a osododd orchymyn; a chwiliwyd yn nhŷ y llyfrau, lle y cedwid y trysorau yn Babilon.

2. A chafwyd yn Achmetha, yn y llys yn nhalaith Media, ryw lyfr, ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo yn goffadwriaeth:

3. Yn y flwyddyn gyntaf i'r brenin Cyrus y gosododd y brenin Cyrus orchymyn am dŷ Dduw o fewn Jerwsalem, Adeilader y tŷ, y fan lle yr aberthent aberthau, a gwnaer yn gadarn ei sylfeini; yn drigain cufydd ei uchder, ac yn drigain cufydd ei led:

4. Yn dair rhes o feini mawr, a rhes o goed newydd: a rhodder y draul o dŷ y brenin.

5. A llestri tŷ Dduw hefyd, yn aur ac yn arian, y rhai a ddug Nebuchodonosor o'r deml yn Jerwsalem, ac a ddug efe adref i Babilon, rhodder hwynt i'w dwyn i'r deml yn Jerwsalem, i'w lle, a gosoder hwynt yn nhŷ Dduw.

6. Yn awr Tatnai tywysog y tu hwnt i'r afon, Setharbosnai, a'ch cyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai ydych o'r tu hwnt i'r afon, ciliwch oddi yno.

Esra 6