Esra 4:22-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A gwyliwch wneuthur yn amryfus yn hyn: paham y tyf niwed i ddrygu y brenhinoedd?

23. Yna pan ddarllenwyd ystyr llythyr Artacsercses y brenin o flaen Rehum a Simsai yr ysgrifennydd, a'u cyfeillion, hwy a aethant i fyny ar frys i Jerwsalem at yr Iddewon, ac a wnaethant iddynt beidio trwy fraich a chryfder.

24. Yna y peidiodd gwaith tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem; ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.

Esra 4