60. Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a deuddeg a deugain.
61. A meibion yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai; yr hwn a gymerasai wraig o ferched Barsilai y Gileadiad, ac a alwasid ar eu henw hwynt.
62. Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond ni chafwyd hwynt: am hynny y bwriwyd hwynt allan o'r offeiriadaeth.
63. A'r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o'r pethau sancteiddiaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac รข Thummim.
64. Yr holl dyrfa ynghyd, oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain: