Esra 2:59-63 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

59. A'r rhai hyn a aethant i fyny o Tel‐mela, Tel‐harsa, Cerub, Adan, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na'u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt:

60. Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a deuddeg a deugain.

61. A meibion yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai; yr hwn a gymerasai wraig o ferched Barsilai y Gileadiad, ac a alwasid ar eu henw hwynt.

62. Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond ni chafwyd hwynt: am hynny y bwriwyd hwynt allan o'r offeiriadaeth.

63. A'r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o'r pethau sancteiddiaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac â Thummim.

Esra 2