Esra 2:34-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

34. Meibion Jericho, tri chant a phump a deugain.

35. Meibion Senaa, tair mil a chwe chant a deg ar hugain.

36. Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant deg a thrigain a thri.

37. Meibion Immer, mil a deuddeg a deugain.

38. Meibion Pasur, mil dau cant a saith a deugain.

39. Meibion Harim, mil a dau ar bymtheg.

Esra 2