1. Ac wedi i Esra weddïo a chyffesu, gan wylo a syrthio i lawr o flaen tŷ Dduw, tyrfa fawr o Israel a ymgasglasant ato ef, yn wŷr, ac yn wragedd, ac yn blant: canys y bobl a wylasant ag wylofain mawr.
2. Yna y llefarodd Sechaneia mab Jehiel, o feibion Elam, ac a ddywedodd wrth Esra, Ni a bechasom yn erbyn ein Duw, ac a gytaliasom â gwragedd dieithr o bobl y wlad: eto yn awr y mae gobaith i Israel am hyn.
3. Yn awr, gan hynny, gwnawn gyfamod â'n Duw, ar fwrw allan yr holl wragedd, a'u plant, wrth gyngor yr Arglwydd, a'r rhai a ofnant orchmynion ein Duw: a gwneler yn ôl y gyfraith.
4. Cyfod; canys arnat ti y mae y peth: a ni a fyddwn gyda thi: ymwrola, a gwna.
5. Yna y cyfododd Esra, ac a dyngodd benaethiaid yr offeiriaid a'r Lefiaid, a holl Israel, ar wneuthur yn ôl y peth hyn. A hwy a dyngasant.
6. Yna y cyfododd Esra o flaen tŷ Dduw, ac a aeth i ystafell Johanan mab Eliasib: a phan ddaeth yno, ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr; canys galaru yr oedd am gamwedd y gaethglud.
7. A chyhoeddasant yn Jwda a Jerwsalem, ar i holl feibion y gaethglud ymgasglu i Jerwsalem;
8. A phwy bynnag ni ddelai o fewn tridiau, yn ôl cyngor y penaethiaid a'r henuriaid, efe a gollai ei holl olud, ac yntau a ddidolid oddi wrth gynulleidfa y rhai a gaethgludasid.
9. Felly holl wŷr Jwda a Benjamin a ymgasglasant i Jerwsalem o fewn tridiau: hynny oedd y nawfed mis, ar yr ugeinfed dydd o'r mis; a'r holl bobl a eisteddasant yn heol tŷ Dduw, yn crynu o achos y peth hyn, ac o achos y glawogydd.
10. Ac Esra yr offeiriad a gyfododd, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a bechasoch, ac a gytaliasoch â gwragedd dieithr, gan ychwanegu ar bechod Israel.
11. Ac yn awr rhoddwch foliant i Arglwydd Dduw eich tadau, a gwnewch ei ewyllys ef; ac ysgerwch oddi wrth bobl y tir, ac oddi wrth y gwragedd dieithr.