7. Ar helaethrwydd ei lywodraeth a'i dangnefedd ni bydd diwedd, ar orseddfa Dafydd, ac ar ei frenhiniaeth ef, i'w threfnu hi, ac i'w chadarnhau â barn ac â chyfiawnder, o'r pryd hwn, a hyd byth. Sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn.
8. Yr Arglwydd a anfonodd air i Jacob; ac efe a syrthiodd ar Israel.
9. A'r holl bobl a wybydd, sef Effraim a thrigiannydd Samaria, y rhai a ddywedant mewn balchder, ac mewn mawredd calon,
10. Y priddfeini a syrthiasant, ond â cherrig nadd yr adeiladwn: y sycamorwydd a dorrwyd, ond ni a'u newidiwn yn gedrwydd.
11. Am hynny yr Arglwydd a ddyrchafa wrthwynebwyr Resin yn ei erbyn ef, ac a gysyllta ei elynion ef ynghyd;
12. Y Syriaid o'r blaen, a'r Philistiaid hefyd o'r ôl: a hwy a ysant Israel yn safnrhwth. Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
13. A'r bobl ni ddychwelant at yr hwn a'u trawodd, ac ni cheisiant Arglwydd y lluoedd.
14. Am hynny y tyr yr Arglwydd oddi wrth Israel ben a chynffon, cangen a brwynen, yn yr un dydd.
15. Yr henwr a'r anrhydeddus yw y pen: a'r proffwyd sydd yn dysgu celwydd, efe yw y gynffon.
16. Canys cyfarwyddwyr y bobl hyn sydd yn peri iddynt gyfeiliorni, a llyncwyd y rhai a gyfarwyddir ganddynt.