Eseia 8:20-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. At y gyfraith, ac at y dystiolaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hynny sydd am nad oes oleuni ynddynt.

21. A hwy a dramwyant trwyddi, yn galed arnynt ac yn newynog: a bydd pan newynont, yr ymddigiant, ac y melltithiant eu brenin a'u Duw, ac a edrychant i fyny.

22. A hwy a edrychant ar y ddaear; ac wele drallod a thywyllwch, niwl cyfyngder; a byddant wedi eu gwthio i dywyllwch.

Eseia 8