1. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cymer i ti rol fawr, ac ysgrifenna arni â phin dyn, am Maher‐shalal‐has‐bas.
2. A chymerais yn dystiolaeth i mi dystion ffyddlon, Ureia yr offeiriad, a Sechareia mab Jeberecheia.
3. A mi a neseais at y broffwydes; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Galw ei enw ef, Maher‐shalal‐has‐bas.
4. Canys cyn y medro y bachgen alw, Fy nhad, neu, Fy mam, golud Damascus ac ysbail Samaria a ddygir ymaith o flaen brenin Asyria.
5. A chwanegodd yr Arglwydd lefaru wrthyf drachefn, gan ddywedyd,
6. Oherwydd i'r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloa, y rhai sydd yn cerdded yn araf, a chymryd llawenydd o Resin, a mab Remaleia:
7. Am hynny, wele, mae yr Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon, yn gryfion ac yn fawrion, sef brenin Asyria, a'i holl ogoniant; ac efe a esgyn ar ei holl afonydd, ac ar ei holl geulennydd ef.