Eseia 7:12-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ond Ahas a ddywedodd, Ni ofynnaf, ac ni themtiaf yr Arglwydd.

13. A dywedodd yntau, Gwrandewch yr awr hon, tŷ Dafydd; Ai bychan gennych flino dynion, oni flinoch hefyd fy Nuw?

14. Am hynny yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd; Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, ac a eilw ei enw ef, Immanuel.

15. Ymenyn a mêl a fwyty efe; fel y medro ymwrthod â'r drwg, ac ethol y da.

16. Canys cyn medru o'r bachgen ymwrthod â'r drwg, ac ethol y da, y gwrthodir y wlad a ffieiddiaist, gan ei dau frenin.

Eseia 7