Eseia 65:7-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Eich anwireddau chwi, ac anwireddau eich tadau ynghyd, medd yr Arglwydd, y rhai a arogldarthasant ar y mynyddoedd, ac a'm cablasant ar y bryniau: am hynny y mesuraf eu hen weithredoedd hwynt i'w mynwes.

8. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Megis y ceir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, Na ddifwyna ef; canys y mae bendith ynddo: felly y gwnaf er mwyn fy ngweision, na ddistrywiwyf hwynt oll.

9. Eithr dygaf had allan o Jacob, ac o Jwda un a etifeddo fy mynyddoedd: a'm hetholedigion a'i hetifeddant, a'm gweision a drigant yno.

10. Saron hefyd fydd yn gorlan defaid, a glyn Achor yn orweddfa gwartheg, i'm pobl y rhai a'm ceisiasant.

11. Ond chwi yw y rhai a wrthodwch yr Arglwydd, a anghofiwch fy mynydd sanctaidd, a arlwywch fwrdd i'r llu acw, ac a lenwch ddiod‐offrwm i'r niferi acw.

12. Rhifaf chwithau i'r cleddyf, a chwi oll a ymostyngwch i'r lladdedigaeth: oherwydd pan elwais chwi, nid atebasoch; pan leferais, ni wrandawsoch; ond gwnaethoch ddrygioni yn fy ngolwg, a dewisasoch yr hyn nid oedd dda gennyf.

13. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele, fy ngweision a fwytânt, a chwithau a newynwch: wele, fy ngweision a yfant, a chwithau a sychedwch: wele, fy ngweision a lawenychant, a chwithau a fydd cywilydd arnoch:

Eseia 65