Eseia 65:18-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Eithr llawenychwch a gorfoleddwch yn dragywydd yn y pethau a grewyf fi: canys wele fi yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a'i phobl yn llawenydd.

19. Gorfoleddaf hefyd yn Jerwsalem, a llawenychaf yn fy mhobl: ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain, na llef gwaedd.

20. Ni bydd o hynny allan blentyn o oed, na hynafgwr, yr hwn ni chyflawnodd ei ddyddiau: canys y bachgen fydd marw yn fab canmlwydd; ond y pechadur yn fab canmlwydd a felltithir.

21. A hwy a adeiladant dai, ac a'u cyfanheddant; plannant hefyd winllannoedd, a bwytânt eu ffrwyth.

22. Nid adeiladant hwy, fel y cyfanheddo arall; ac ni phlannant, fel y bwytao arall: eithr megis dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl, a'm hetholedigion a hir fwynhânt waith eu dwylo.

23. Ni lafuriant yn ofer, ac ni chenhedlant i drallod: canys had rhai bendigedig yr Arglwydd ydynt hwy, a'u hepil gyda hwynt.

Eseia 65