Eseia 65:15-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. A'ch enw a adewch yn felltith gan fy etholedigion: canys yr Arglwydd Dduw a'th ladd di, ac a eilw ei weision ar enw arall:

16. Fel y bo i'r hwn a ymfendigo ar y ddaear, ymfendigo yn Nuw y gwirionedd; ac i'r hwn a dyngo ar y ddaear, dyngu i Dduw y gwirionedd: am anghofio y trallodau gynt, ac am eu cuddio hwynt o'm golwg.

17. Canys wele fi yn creu nefoedd newydd, a daear newydd: a'r rhai cyntaf ni chofir, ac ni feddylir amdanynt.

18. Eithr llawenychwch a gorfoleddwch yn dragywydd yn y pethau a grewyf fi: canys wele fi yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a'i phobl yn llawenydd.

19. Gorfoleddaf hefyd yn Jerwsalem, a llawenychaf yn fy mhobl: ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain, na llef gwaedd.

20. Ni bydd o hynny allan blentyn o oed, na hynafgwr, yr hwn ni chyflawnodd ei ddyddiau: canys y bachgen fydd marw yn fab canmlwydd; ond y pechadur yn fab canmlwydd a felltithir.

21. A hwy a adeiladant dai, ac a'u cyfanheddant; plannant hefyd winllannoedd, a bwytânt eu ffrwyth.

22. Nid adeiladant hwy, fel y cyfanheddo arall; ac ni phlannant, fel y bwytao arall: eithr megis dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl, a'm hetholedigion a hir fwynhânt waith eu dwylo.

23. Ni lafuriant yn ofer, ac ni chenhedlant i drallod: canys had rhai bendigedig yr Arglwydd ydynt hwy, a'u hepil gyda hwynt.

24. A bydd, cyn galw ohonynt, i mi ateb: ac a hwy eto yn llefaru, mi a wrandawaf.

25. Y blaidd a'r oen a borant ynghyd; y llew fel ych a bawr wellt; a'r sarff, llwch fydd ei bwyd hi: ni ddrygant ac ni ddistrywiant yn fy holl fynydd sanctaidd, medd yr Arglwydd.

Eseia 65