1. Ceisiwyd fi gan y rhai ni ymofynasant amdanaf; cafwyd fi gan y rhai ni'm ceisiasant: dywedais, Wele fi, wele fi, wrth genhedlaeth ni alwyd ar fy enw i.
2. Estynnais fy llaw ar hyd y dydd at bobl wrthryfelgar, y rhai a rodient y ffordd nid oedd dda, yn ôl eu meddyliau eu hun;
3. Pobl y rhai a'm llidient i yn wastad yn fy wyneb; yn aberthu mewn gerddi, ac yn arogldarthu ar allorau priddfeini;
4. Y rhai a arhoent ymysg y beddau, ac a letyent yn y mynwentau; y rhai a fwytaent gig moch, ac isgell ffiaidd bethau yn eu llestri;
5. Y rhai a ddywedent, Saf ar dy ben dy hun; na nesâ ataf fi: canys sancteiddiach ydwyf na thydi. Y rhai hyn sydd fwg yn fy ffroenau, tân yn llosgi ar hyd y dydd.
6. Wele, ysgrifennwyd ger fy mron: ni thawaf; eithr talaf, ie, talaf i'w mynwes,
7. Eich anwireddau chwi, ac anwireddau eich tadau ynghyd, medd yr Arglwydd, y rhai a arogldarthasant ar y mynyddoedd, ac a'm cablasant ar y bryniau: am hynny y mesuraf eu hen weithredoedd hwynt i'w mynwes.
8. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Megis y ceir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, Na ddifwyna ef; canys y mae bendith ynddo: felly y gwnaf er mwyn fy ngweision, na ddistrywiwyf hwynt oll.
9. Eithr dygaf had allan o Jacob, ac o Jwda un a etifeddo fy mynyddoedd: a'm hetholedigion a'i hetifeddant, a'm gweision a drigant yno.
10. Saron hefyd fydd yn gorlan defaid, a glyn Achor yn orweddfa gwartheg, i'm pobl y rhai a'm ceisiasant.
11. Ond chwi yw y rhai a wrthodwch yr Arglwydd, a anghofiwch fy mynydd sanctaidd, a arlwywch fwrdd i'r llu acw, ac a lenwch ddiod‐offrwm i'r niferi acw.
12. Rhifaf chwithau i'r cleddyf, a chwi oll a ymostyngwch i'r lladdedigaeth: oherwydd pan elwais chwi, nid atebasoch; pan leferais, ni wrandawsoch; ond gwnaethoch ddrygioni yn fy ngolwg, a dewisasoch yr hyn nid oedd dda gennyf.
13. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele, fy ngweision a fwytânt, a chwithau a newynwch: wele, fy ngweision a yfant, a chwithau a sychedwch: wele, fy ngweision a lawenychant, a chwithau a fydd cywilydd arnoch:
14. Wele, fy ngweision a ganant o hyfrydwch calon, a chwithau a waeddwch rhag gofid calon, ac a udwch rhag cystudd ysbryd.