Eseia 63:8-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Canys efe a ddywedodd, Diau fy mhobl ydynt hwy, meibion ni ddywedant gelwydd; felly efe a aeth yn Iachawdwr iddynt.

9. Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd, ac angel ei gynddrychioldeb a'u hachubodd hwynt; yn ei gariad ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe a'u dygodd hwynt, ac a'u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt.

10. Hwythau oeddynt wrthryfelgar, ac a ofidiasant ei Ysbryd sanctaidd ef: am hynny y trodd efe yn elyn iddynt, ac yr ymladdodd yn eu herbyn.

11. Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt, Moses a'i bobl, gan ddywedyd, Mae yr hwn a'u dygodd hwynt i fyny o'r môr, gyda bugail ei braidd? mae yr hwn a osododd ei Ysbryd sanctaidd o'i fewn ef?

12. Yr hwn a'u tywysodd hwynt â deheulaw Moses, ac â'i ogoneddus fraich, gan hollti y dyfroedd o'u blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun enw tragwyddol?

13. Yr hwn a'u harweiniodd hwynt trwy y dyfnderau, fel march yn yr anialwch, fel na thramgwyddent?

14. Fel y disgyn anifail i'r dyffryn, y gwna Ysbryd yr Arglwydd iddo orffwys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur i ti enw gogoneddus.

15. Edrych o'r nefoedd a gwêl o annedd dy sancteiddrwydd a'th ogoniant: mae dy sêl a'th gadernid, lluosowgrwydd dy dosturiaethau a'th drugareddau tuag ataf fi? a ymataliasant?

16. Canys ti yw ein Tad ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na'n cydnebydd Israel: ti, Arglwydd, yw ein Tad ni, ein Gwaredydd; dy enw sydd erioed.

17. Paham, Arglwydd, y gwnaethost i ni gyfeiliorni allan o'th ffyrdd? ac y caledaist ein calonnau oddi wrth dy ofn? Dychwel er mwyn dy weision, llwythau dy etifeddiaeth.

18. Dros ychydig ennyd y meddiannodd dy bobl sanctaidd: ein gwrthwynebwyr a fathrasant dy gysegr di.

19. Nyni ydym eiddot ti: erioed ni buost yn arglwyddiaethu arnynt hwy; ac ni elwid dy enw arnynt.

Eseia 63