1. Pwy yw hwn yn dyfod o Edom, yn goch ei ddillad o Bosra? hwn sydd hardd yn ei wisg, yn ymdaith yn amlder ei rym? Myfi, yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder, ac wyf gadarn i iacháu.
2. Paham yr ydwyt yn goch dy ddillad, a'th wisgoedd fel yr hwn a sathrai mewn gwinwryf?
3. Sethrais y gwinwryf fy hunan, ac o'r bobl nid oedd un gyda mi; canys mi a'u sathraf hwynt yn fy nig, ac a'u mathraf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a'u gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad, a'm holl wisgoedd a lychwinaf.
4. Canys dydd dial sydd yn fy nghalon, a blwyddyn fy ngwaredigion a ddaeth.