1. Er mwyn Seion ni thawaf, ac er mwyn Jerwsalem ni ostegaf, hyd onid elo ei chyfiawnder hi allan fel disgleirdeb, a'i hiachawdwriaeth hi fel lamp yn llosgi.
2. A'r cenhedloedd a welant dy gyfiawnder, a'r holl frenhinoedd dy ogoniant: yna y gelwir arnat enw newydd, yr hwn a enwa genau yr Arglwydd.
3. Byddi hefyd yn goron gogoniant yn llaw yr Arglwydd, ac yn dalaith frenhinol yn llaw dy Dduw.
4. Ni ddywedir amdanat mwy, Gwrthodedig; am dy dir hefyd ni ddywedir mwy, Anghyfannedd: eithr ti a elwir Heffsiba; a'th dir, Beula: canys y mae yr Arglwydd yn dy hoffi, a'th dir a briodir.