Eseia 6:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr Arglwydd yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a'i odre yn llenwi y deml.

2. Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai.

3. A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw Arglwydd y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o'i ogoniant ef.

Eseia 6