11. Nyni oll a ruasom fel eirth, a chan riddfan y griddfanasom fel colomennod: disgwyliasom am farn, ac nid oes dim: am iachawdwriaeth, ac ymbellhaodd oddi wrthym.
12. Canys amlhaodd ein camweddau ger dy fron, a thystiolaethodd ein pechodau i'n herbyn: oherwydd ein camweddau sydd gyda ni; a'n hanwireddau, ni a'u hadwaenom:
13. Camweddu, a dywedyd celwydd yn erbyn yr Arglwydd, a chilio oddi ar ôl ein Duw, dywedyd trawster ac anufudd‐dod, myfyrio a thraethu o'r galon eiriau gau.
14. Barn hefyd a droed yn ei hôl, a chyfiawnder a safodd o hirbell: canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni all ddyfod i mewn.
15. Ie, gwirionedd sydd yn pallu, a'r hwn sydd yn cilio oddi wrth ddrygioni a'i gwna ei hun yn ysbail: a gwelodd yr Arglwydd hyn, a drwg oedd yn ei olwg nad oedd barn.
16. Gwelodd hefyd nad oedd gŵr, a rhyfeddodd nad oedd eiriolwr: am hynny ei fraich a'i hachubodd, a'i gyfiawnder ei hun a'i cynhaliodd.
17. Canys efe a wisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; ac a wisgodd wisgoedd dial yn ddillad; ie, gwisgodd sêl fel cochl.
18. Yn ôl y gweithredoedd, ie, yn eu hôl hwynt, y tâl efe, llid i'w wrthwynebwyr, taledigaeth i'w elynion; taledigaeth i'r ynysoedd a dâl efe.
19. Felly yr ofnant enw yr Arglwydd o'r gorllewin, a'i ogoniant ef o godiad haul. Pan ddelo y gelyn i mewn fel afon, Ysbryd yr Arglwydd a'i hymlid ef ymaith.
20. Ac i Seion y daw y Gwaredydd, ac i'r rhai a droant oddi wrth anwiredd yn Jacob, medd yr Arglwydd.
21. A minnau, dyma fy nghyfamod â hwynt, medd yr Arglwydd: Fy ysbryd yr hwn sydd arnat, a'm geiriau y rhai a osodais yn dy enau, ni chiliant o'th enau, nac o enau dy had, nac o enau had dy had, medd yr Arglwydd, o hyn allan byth.