Eseia 59:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wele, ni fyrhawyd llaw yr Arglwydd, fel na allo achub; ac ni thrymhaodd ei glust ef, fel na allo glywed:

2. Eithr eich anwireddau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi a'ch Duw, a'ch pechodau a guddiasant ei wyneb oddi wrthych, fel na chlywo.

3. Canys eich dwylo a halogwyd â gwaed, a'ch bysedd â chamwedd: eich gwefusau a draethasant gelwydd, eich tafod a fyfyriodd anwiredd.

4. Nid oes a alwo am gyfiawnder, nac a ddadlau dros y gwirionedd: y maent yn gobeithio mewn gwagedd, ac yn dywedyd celwydd; yn beichiogi ar flinder, ac yn esgor ar anwiredd.

5. Wyau asb a ddodwasant, a gweoedd y pryf copyn a weant: yr hwn a fwyty o'u hwyau a fydd farw, a'r hwn a sathrer a dyr allan yn wiber.

6. Eu gweoedd hwy ni byddant yn wisgoedd, ac nid ymddilladant â'u gweithredoedd: eu gweithredoedd ydynt weithredoedd anwiredd, a gwaith trawster sydd yn eu dwylo.

Eseia 59