Eseia 59:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wele, ni fyrhawyd llaw yr Arglwydd, fel na allo achub; ac ni thrymhaodd ei glust ef, fel na allo glywed:

2. Eithr eich anwireddau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi a'ch Duw, a'ch pechodau a guddiasant ei wyneb oddi wrthych, fel na chlywo.

3. Canys eich dwylo a halogwyd â gwaed, a'ch bysedd â chamwedd: eich gwefusau a draethasant gelwydd, eich tafod a fyfyriodd anwiredd.

Eseia 59