Eseia 56:8-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Medd yr Arglwydd Dduw, yr hwn a gasgl wasgaredigion Israel, Eto mi a gasglaf eraill ato ef, gyda'r rhai sydd wedi eu casglu ato.

9. Pob bwystfil y maes, deuwch i ddifa, a phob bwystfil yn y coed.

10. Deillion yw ei wyliedyddion: ni wyddant hwy oll ddim, cŵn mudion ydynt hwy oll, heb fedru cyfarth; yn cysgu, yn gorwedd, ac yn caru hepian.

11. Ie, cŵn gwancus ydynt, ni chydnabyddant â'u digon, a bugeiliaid ydynt ni fedrant ddeall; wynebant oll ar eu ffordd eu hun, pob un at ei elw ei hun o'i gwr.

12. Deuwch, meddant, cyrchaf win, ac ymlanwn o ddiod gref; a bydd yfory megis heddiw, a mwy o lawer iawn.

Eseia 56