Eseia 56:10-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Deillion yw ei wyliedyddion: ni wyddant hwy oll ddim, cŵn mudion ydynt hwy oll, heb fedru cyfarth; yn cysgu, yn gorwedd, ac yn caru hepian.

11. Ie, cŵn gwancus ydynt, ni chydnabyddant â'u digon, a bugeiliaid ydynt ni fedrant ddeall; wynebant oll ar eu ffordd eu hun, pob un at ei elw ei hun o'i gwr.

12. Deuwch, meddant, cyrchaf win, ac ymlanwn o ddiod gref; a bydd yfory megis heddiw, a mwy o lawer iawn.

Eseia 56