Eseia 56:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Cedwch farn, a gwnewch gyfiawnder: canys fy iachawdwriaeth sydd ar ddyfod, a'm cyfiawnder ar ymddangos.

2. Gwyn ei fyd y dyn a wnelo hyn, a mab y dyn a ymaflo ynddo; gan gadw y Saboth heb ei halogi, a chadw ei law rhag gwneuthur dim drwg.

Eseia 56