9. Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na'r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd i na'ch ffyrdd chwi, a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi.
10. Canys fel y disgyn y glaw a'r eira o'r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dyfrha y ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu, fel y rhoddo had i'r heuwr, a bara i'r bwytawr:
11. Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o'm genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o'i blegid.
12. Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd y'ch arweinir; y mynyddoedd a'r bryniau a floeddiant ganu o'ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo.
13. Yn lle drain y cyfyd ffynidwydd, yn lle mieri y cyfyd myrtwydd: a hyn fydd i'r Arglwydd yn enw, ac yn arwydd tragwyddol yr hwn ni thorrir ymaith.