Eseia 55:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. O Deuwch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno, ie, yr hwn nid oes arian ganddo; deuwch, prynwch, a bwytewch; ie, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian, ac heb werth.

2. Paham y gweriwch arian am yr hyn nid ydyw fara? a'ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni? gan wrando gwrandewch arnaf fi, a bwytewch yr hyn sydd dda; ac ymhyfryded eich enaid mewn braster.

3. Gogwyddwch eich clust, a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid: a mi a wnaf gyfamod tragwyddol รข chwi, sef sicr drugareddau Dafydd.

4. Wele, rhoddais ef yn dyst i'r bobl, yn flaenor ac yn athro i'r bobloedd.

5. Wele, cenedl nid adwaeni a elwi, a chenhedloedd ni'th adwaenai di a red atat, er mwyn yr Arglwydd dy Dduw, ac oherwydd Sanct Israel: canys efe a'th ogoneddodd.

6. Ceisiwch yr Arglwydd, tra y galler ei gael ef; gelwch arno, tra fyddo yn agos.

Eseia 55