9. Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi: canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na'th geryddwn.
10. Canys y mynyddoedd a giliant, a'r bryniau a symudant: eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr Arglwydd sydd yn trugarhau wrthyt.
11. Y druan, helbulus gan dymestl, y ddigysur, wele, mi a osodaf dy gerrig di â charbuncl, ac a'th sylfaenaf â meini saffir.
12. Gwnaf hefyd dy ffenestri o risial, a'th byrth o feini disglair, a'th holl derfynau o gerrig dymunol.
13. Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr Arglwydd; a mawr fydd heddwch dy feibion.
14. Mewn cyfiawnder y'th sicrheir: byddi bell oddi wrth orthrymder, canys nid ofni; ac oddi wrth ddychryn, canys ni nesâ atat.
15. Wele, gan ymgasglu hwy a ymgasglant, ond nid ohonof fi: pwy bynnag ohonot ti a ymgasglo i'th erbyn, efe a syrth.
16. Wele, myfi a greais y gof, yr hwn a chwyth y marwor yn tân, ac a ddefnyddia arf i'w waith; myfi hefyd a greais y dinistrydd i ddistrywio.
17. Ni lwydda un offeryn a lunier i'th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i'th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd, a'u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi, medd yr Arglwydd.