2. Helaetha le dy babell, ac estynnant gortynnau dy breswylfeydd: nac atal, estyn dy raffau, a sicrha dy hoelion.
3. Canys ti a dorri allan ar y llaw ddeau ac ar y llaw aswy; a'th had a etifedda y Cenhedloedd, a dinasoedd anrheithiedig a wnânt yn gyfanheddol.
4. Nac ofna; canys ni'th gywilyddir: ac na'th waradwydder, am na'th warthruddir; canys ti a anghofi waradwydd dy ieuenctid, a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach.
5. Canys dy briod yw yr hwn a'th wnaeth; Arglwydd y lluoedd yw ei enw: dy Waredydd hefyd, Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir ef.
6. Canys fel gwraig wrthodedig, a chystuddiedig o ysbryd, y'th alwodd yr Arglwydd, a gwraig ieuenctid, pan oeddit wrthodedig, medd dy Dduw.
7. Dros ennyd fechan y'th adewais; ond â mawr drugareddau y'th gasglaf.
8. Mewn ychydig soriant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr; ond â thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt, medd yr Arglwydd dy Waredydd.
9. Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi: canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na'th geryddwn.
10. Canys y mynyddoedd a giliant, a'r bryniau a symudant: eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr Arglwydd sydd yn trugarhau wrthyt.