Eseia 54:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Cân, di amhlantadwy nid esgorodd; bloeddia ganu, a gorfoledda, yr hon nid esgorodd: oherwydd amlach meibion yr hon a adawyd, na'r hon y mae gŵr iddi, medd yr Arglwydd.

2. Helaetha le dy babell, ac estynnant gortynnau dy breswylfeydd: nac atal, estyn dy raffau, a sicrha dy hoelion.

3. Canys ti a dorri allan ar y llaw ddeau ac ar y llaw aswy; a'th had a etifedda y Cenhedloedd, a dinasoedd anrheithiedig a wnânt yn gyfanheddol.

4. Nac ofna; canys ni'th gywilyddir: ac na'th waradwydder, am na'th warthruddir; canys ti a anghofi waradwydd dy ieuenctid, a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach.

5. Canys dy briod yw yr hwn a'th wnaeth; Arglwydd y lluoedd yw ei enw: dy Waredydd hefyd, Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir ef.

6. Canys fel gwraig wrthodedig, a chystuddiedig o ysbryd, y'th alwodd yr Arglwydd, a gwraig ieuenctid, pan oeddit wrthodedig, medd dy Dduw.

7. Dros ennyd fechan y'th adewais; ond â mawr drugareddau y'th gasglaf.

8. Mewn ychydig soriant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr; ond â thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt, medd yr Arglwydd dy Waredydd.

Eseia 54