8. O garchar ac o farn y cymerwyd ef: a phwy a draetha ei oes ef? canys efe a dorrwyd o dir y rhai byw; rhoddwyd pla arno ef am gamwedd fy mhobl.
9. Ac efe a wnaeth ei fedd gyda'r rhai anwir, a chyda'r cyfoethog yn ei farwolaeth; am na wnaethai gam, ac nad oedd twyll yn ei enau.
10. Eithr yr Arglwydd a fynnai ei ddryllio ef; efe a'i clwyfodd: pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod, efe a wêl ei had, efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr Arglwydd a lwydda yn ei law ef.
11. O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir: fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt.
12. Am hynny y rhannaf iddo ran gyda llawer, ac efe a ranna yr ysbail gyda'r cedyrn: am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth: ac efe a gyfrifwyd gyda'r troseddwyr; ac efe a ddug bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y troseddwyr.