Eseia 51:8-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Canys y pryf a'u bwyty fel dilledyn, a'r gwyfyn a'u hysa fel gwlân: eithr fy nghyfiawnder a fydd yn dragywydd, a'm hiachawdwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.

9. Deffro, deffro, gwisg nerth, O fraich yr Arglwydd; deffro, fel yn y dyddiau gynt, yn yr oesoedd gynt. Onid ti yw yr hwn a dorraist Rahab, ac a archollaist y ddraig?

10. Onid ti yw yr hwn a sychaist y môr, dyfroedd y dyfnder mawr? yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i'r gwaredigion i fyned drwodd?

11. Am hynny y dychwel gwaredigion yr Arglwydd, a hwy a ddeuant i Seion â chanu, ac â llawenydd tragwyddol ar eu pennau: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch; gofid a griddfan a ffy ymaith.

12. Myfi, myfi, yw yr hwn a'ch diddana chwi: pwy wyt ti, fel yr ofnit ddyn, yr hwn fydd farw; a mab dyn, yr hwn a wneir fel glaswelltyn?

13. Ac a anghofi yr Arglwydd dy Wneuthurwr, yr hwn a estynnodd y nefoedd, ac a seiliodd y ddaear? ac a ofnaist bob dydd yn wastad rhag llid y gorthrymydd, fel pe darparai i ddinistrio? a pha le y mae llid y gorthrymydd?

14. Y carcharor sydd yn brysio i gael ei ollwng yn rhydd, fel na byddo farw yn y pwll, ac na phallo ei fara ef.

15. Eithr myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a barthodd y môr, pan ruodd ei donnau: ei enw yw Arglwydd y lluoedd.

16. Gosodais hefyd fy ngeiriau yn dy enau, ac yng nghysgod fy llaw y'th doais, fel y plannwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaear, ac y dywedwn wrth Seion, Fy mhobl ydwyt.

17. Deffro, deffro, cyfod, Jerwsalem, yr hon a yfaist o law yr Arglwydd gwpan ei lidiowgrwydd ef; yfaist waddod y cwpan erchyll, ie, sugnaist ef.

18. Nid oes arweinydd iddi o'r holl feibion a esgorodd; ac nid oes a ymaflo yn ei llaw o'r holl feibion a fagodd.

19. Y ddau beth hyn a ddigwyddasant i ti; pwy a ofidia trosot? dinistr a distryw, a newyn a chleddyf; trwy bwy y'th gysuraf?

20. Dy feibion a lewygasant, gorweddant ym mhen pob heol, fel tarw gwyllt mewn magl: llawn ydynt o lidiowgrwydd yr Arglwydd, a cherydd dy Dduw.

21. Am hynny gwrando fi yn awr, y druan, a'r feddw, ac nid trwy win.

Eseia 51