1. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pa le y mae llythyr ysgar eich mam, trwy yr hwn y gollyngais hi ymaith? neu pwy o'm dyledwyr y gwerthais chwi iddo? Wele, am eich anwireddau yr ymwerthasoch, ac am eich camweddau y gollyngwyd ymaith eich mam.
2. Paham, pan ddeuthum, nad oedd neb i'm derbyn? pan elwais, nad atebodd neb? Gan gwtogi a gwtogodd fy llaw, fel na allai ymwared? neu onid oes ynof nerth i achub? wele, â'm cerydd y sychaf y môr, gwneuthum yr afonydd yn ddiffeithwch: eu pysgod a ddrewant o eisiau dwfr, ac a fyddant feirw o syched.
3. Gwisgaf y nefoedd â thywyllwch, a gosodaf sachliain yn do iddynt.
4. Yr Arglwydd Dduw a roddes i mi dafod y dysgedig, i fedru mewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol: deffry fi bob bore, deffry i mi glust i glywed fel y dysgedig.
5. Yr Arglwydd Dduw a agorodd fy nghlust, a minnau ni wrthwynebais, ac ni chiliais yn fy ôl.
6. Fy nghorff a roddais i'r curwyr, a'm cernau i'r rhai a dynnai y blew: ni chuddiais fy wyneb oddi wrth waradwydd a phoeredd.
7. Oherwydd yr Arglwydd Dduw a'm cymorth; am hynny ni'm cywilyddir: am hynny gosodais fy wyneb fel callestr, a gwn na'm cywilyddir.
8. Agos yw yr hwn a'm cyfiawnha; pwy a ymryson â mi? safwn ynghyd: pwy yw fy ngwrthwynebwr? nesaed ataf.
9. Wele, yr Arglwydd Dduw a'm cynorthwya; pwy yw yr hwn a'm bwrw yn euog? wele, hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn; y gwyfyn a'u hysa hwynt.